Cefndir a diben
Mae Atodlen 5 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau sy’n drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddibenion y dreth trafodiadau tir.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 5 i ddarparu bod prynu annedd unigol sy'n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch yn peidio â bod yn drafodiad o’r fath os yw’r annedd hwnnw yn cael ei lesio wedyn i awdurdod lleol yng Nghymru. Maent hefyd yn darparu bod y dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â thrafodiad sy’n ymwneud â phrynu anheddau lluosog yn cael ei gostwng os yw unrhyw un o’r anheddau hynny yn cael ei lesio wedyn i awdurdod lleol yng Nghymru, yn ddarostyngedig i amodau penodol ym mhob achos.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth atodol ynghylch hawlio ad-daliadau ac asesu’r dreth trafodiadau tir ymhellach.
Gweithdrefn
Gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y 2 bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.
Mae adran 25 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn darparu bod rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau sy’n ymwneud â threthi datganoledig, gan gynnwys y dreth trafodiadau tir a gesglir, i Gronfa Gyfunol Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gostwng atebolrwydd i dalu treth trafodiadau tir o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir uchod.
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mewn Datganiad Ysgrifenedigdyddiedig 20 Ionawr 2026, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford AS:
“[Mae’r Rheoliadau hyn]… yn darparu ad-daliad newydd ar gyfer trafodiadau sy'n ddarostyngedig i gyfraddau preswyl uwch y dreth trafodiadau tir. Bydd yr ad-daliad newydd yn gymwys pan fo person yn prynu annedd sy'n costio £400,000 neu lai sy'n atebol i'r ad-daliad, ac yna'n ei lesio i awdurdod lleol yng Nghymru, o fewn 18 mis i'r pryniant hwnnw, a phan fo'r les yn bodloni'r amodau yn y rheoliadau.
Bwriad yr ad-daliad yw cymell unigolion i lesio eiddo i awdurdodau lleol yng Nghymru o dan Gynllun Lesio Cymru, sef cynllun gan Lywodraeth Cymru sy'n cyfrannu tuag at ddarparu cartrefi am renti fforddiadwy. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael ag effaith digartrefedd a'r defnydd o lety dros dro.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
2 Chwefror 2026